Details
Wrth lwyfannu Hwyliau'n Codi llynedd bwriad Bara Caws oedd gweld os oedd ?rif?w gymunedol o'r hen deip' yn dal i ddiddanu heddiw. Cawsom ymatebion cadarnhaol rif y gwlith - yn alwadau ff?n, yn llythyrau ac e-byst, yn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar lafar - felly yn sgil llwyddiant ysgubol y cynhyrchiad, mae Bara Caws yn bwriadu teithio rif?w newydd o amgylch Cymru yn ystod Gwanwyn 2014, fydd yn nodi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Drwy wahodd yr un cast a gymerodd ran yn Hwyliau'n Codi yn ?l atom i gydlunio'r. sgript a'i pherfformio, bydd y broses greadigol ei hun yn mynd ? ni n?l at ddull gwreiddiol Cwmni Bara Caws o greu, ac yn rhyw dalu gwrogaeth i'r criw a sylfaenodd y Cwmni yn y lle cyntaf. Yr actorion: Gwion Aled; Rhian Blythe; Mirain Haf; Carwyn Jones a Rhodri Sion. Cerddoriaeth: Osian Gwynedd. Cyfarwyddwr: Betsan Llwyd.
What's On By Year ...