Details
Rydym yn croesawu Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn ôl i Lan yr Afon eleni gyda gwaith newydd sbon a ysgrifennwyd gan bobl ifanc. Mae Ysgrifenwyr Ifanc ThCIC wedi dyfeisio cymuned Gymreig fodern, sy'n nodweddiadol o unrhyw dref yng Nghymru (ond sydd eto'n wahanol i bob tref arall), gan ddilyn ffortiwn ei thrigolion, sy'n fyw ac yn farw, yn ystod un dydd. Dyma ddiwrnod nodweddiadol (ond eto heb fod yr un fath ag un diwrnod arall) wrth i'r gorffennol aflonyddu a'r presennol awgrymu dyfodol ansicr. Rhywbryd yn gynnar y bore, mae merch mewn trallod yn camu ar i ganllaw pont; amser cinio, mae dathliadau ar droed am briodas y flwyddyn; gyda'r nos, mae ergyd yn atseinio yn Afghanistan... Yn unol â'r ddwy flynedd flaenorol, cynhyrchiad ensemble ar raddfa fawr fydd title yn cyfuno drama â chomedi, caneuon, cerddoriaeth a symud, a'r ddwy iaith sy'n bodoli yng Nghymru.
Creatives/Company
Author:
NYTW WritersWhat's On By Year ...