Details
Cyfieithiad Elis Gwyn (brawd y diweddar Wil Sam) o un o ddramau mawr Harold Pinter. The Caretaker oedd y cyntaf o ddramau Pinter i lwyddo'n artistic a masnachol, gyda'r canlyniad o'i wneud yn enw cyfarwydd trwy Brydain. Roedd The Caretaker yn lwyddiant ysgubol gyda chynulleidfoedd, a derbyniodd adolygiadau ffafriol dros ben gan adolygwyr y cyfnod. Dros y blynyddoedd, mae'r ddrama wedi parhau i dderbyn clod a denu cynulleidfaoedd. Mae wedi ei haddasu ar gyfer teledu a ffilm, yn ogystal a chael ei pherfformion fyd eang. Fe lwyfanwyd y cyfieithiad yma gan Elis Gwyn nôl yn y saithdegau gan Gwmni Theatr Cymru ac roedd yna ganmol mawr i'r cynhyrchiad. Bu farw Pinter yn Rhagfyr 2008, ac mae'n briodol, felly, fod Theatr Genedlaethol Cymru'n cynhyrchu Y Gofalwr fel coffâd iddo.
Creatives/Company
Company:
Theatr Genedlaethol Cymru