Details
The long-awaited new play about family secrets by the leading Welsh-language dramatist. Gwyn fyd Dafydd: yn ugain oed, yn fyfyriwr yng Nghaerdydd, canolbwynt emosiynol y Cymry ifanc sydd ohoni, ac ymhell o'r filltir sgwâr ormesol ar lethrau Eryri mae o mor hoff o ramantu yn ei chylch pan yn codi bys bach ym mariau a thafarndai'r brifddinas. Dychwela Dafydd i fwrw Sul tyngedfennol yng nghwmni ei deulu i ddathlu pen-blwydd Prysor, y taid mae'n ei garu gymaint. Teulu clòs; pawb yn byw yng nghegau a phocedi ei gilydd, ac yn rhannu a gwarchod cyfrinach dywyll a wthiwyd i ben pellaf eu hymwybyddiaeth - cyfrinach a gadwyd rhag Dafydd ar hyd y blynyddoedd. Mared - dieithryn a ddaw i'w ganlyn, a dylanwad dinistriol os gwelwyd un erioed - sy'n gyfrifol am ysgwyd Dafydd o'i gwsg hir, gan ddinoethi'r gwirionedd erchyll amdano yn y broses.
Creatives/Company
Author:
Meic PoveyCompany:
Theatr Genedlaethol CymruDirector:
Meic Povey